Gellir llogi’r ganolfan ar gyfer cyfarfodydd, partïon neu lety dros nos.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drefnu i logi’r ganolfan cysylltwch â Cath Jones ar 07769512543 neu e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. os gwelwch yn dda.
Costau llogi’r Ganolfan yw:
£50 am ddiwrnod cyfan
£100 am benwythnos
£30 y sesiwn – bore, prynhawn neu gyda’r nos
Mae lle i uchafswm o 15 o bobl aros yn y ganolfan dros nos.
Mae gan y ganolfan ystafell gawod newydd sbon a chegin gynhwysfawr – mae’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau Sgowtiaid, Geidiaid, Gwobr Dug Caeredig neu griw o gerddwyr, dringwyr, canŵ-wyr ac ati.
Y gost yw £5 yr unigolyn y noson gyda ffi isafswm o £20 y noson.
Os oes mwy na 6 o bobl yn aros dros nos codir tâl o £5.00 ychwanegol.