Mae Cymdeithas Cymuned Pentredwr a’r Cylch yn elusen ac mae’r cyfleuster ym Mhentredwr yn darparu lle i’r gymuned gyfarfod a chynnal digwyddiadau. Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mae gwaith adeiladu sylwed-dol wedi’i gwblhau’n ddiweddar yng Nghanolfan Gymuned Pentredwr.

Mae’r mynediad i’r adeilad wedi’i wella’n fawr (yn cynnwys mynediad i’r anabl); strwythurau wedi’u gwneud yn ddiogel a gwaith draenio wedi’i gwblhau. Bydd hyn yn gwella’r cyfleuster cyfredol ac yn denu mwy i’w ddefnyddio. Diolch enfawr gan y gymuned leol i’r criw bach o bobl ymroddedig am wthio’r prosiect yn ei flaen yn ystod cyfnod anodd.

Mae Cymdeithas Cymuned Pentredwr a Chwmni Budd Cymunedol Gwlangollen wedi derbyn cyllid hefyd gan Gronfa Gymuned y Loteri Genedlaehtol ar gyfer prosiect newydd Dyfodol Gwledig. Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Gymdeithas Cymuned Pentredwr a Gwlangollen i greu Hwb Pentredwr fel canolfan sgiliau gwledig. Mae ffermio defaid yn ganolog i amaethyddiaeth yn y dyffryn ac felly mae hyrwyddo gwlân ac ymchwilio i ddefnydd ehangach cnu a gynhyrchwyd yn lleol yn elfen allweddol y gwaith y bydd Hwb Pentredwr yn ei wneud.

Nod y prosiect yw sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bobl leol a chryfhau’r gymuned trwy leihau effaith ynysu gwledig a digidol. Bydd y prosiect yn gweithio tuag at sicrhau ffyniant cymunedol trwy ddatblygu sgiliau a mentrau gwledig; mynd i’r afael ag ynysu gwledig; cefnogi cynhwysiant digidol a mynediad at wasanaethau a chryfhau’r gymuned trwy hynny.

Gobeithiwn y bydd hyn o fudd i drigolion Plwyf Llantysilio a defnyddwyr y Ganolfan Gymuned fel ei gilydd gan y gobeithir y bydd yn golygu cael system ddiwifr newydd; mynediad i system gludiant gymunedol o Gorwen trwy Bentredwr i Lan-gollen, ac amrediad eang o sgiliau crefft treftadaeth i bawb eu mwynhau.

Fis nesaf bydd Hwb Pentredwr yn hysbysebu swydd cydlynydd prosiect rhan amser am gyfnod o ddwy flynedd, felly os oes gennych chi neu’ch ffrindiau ddiddordeb mewn gwneud cais am y swydd edrychwch ar dudalen Facebook Cymdeithas Cymuned Pentredwr a’r Cylch neu’r wefan i gael y manylion. Bydd y rhain hefyd yn cynnwys calendr digwyddiadau llawn, a fydd yn cynnwys gweithdai a digwyddi-adau sut i logi’r ganolfan ar gyfer grwpiau neu unigolion preifat pan fo’r cyfyngi-adau cyfredol yn caniatáu hynny.

DIOLCH ENFAWR i bawb sy’n prynu tocynnau loteri. Ni fyddai dim o hyn yn dig-wydd hebddoch chi!

FaLang translation system by Faboba