Yn 1909, yn fuan ar ôl agor Ysgol Pentredwr am y tro cyntaf, tynnwyd llun o holl drigolion y pentref.

Yn 1999, yn union cyn y mileniwm newydd, trefnwyd llun arall yn yr un fan ym muarth yr ysgol.

Ac fe wnaethon ni hyn eto yn 2019!

Ar ôl derbyn Micro Grant Dyfodol Gwledig trefnwyd i’r ffotograffydd lleol Andrew Gale dynnu llun y gymuned, a chafodd pawb, yn hen ac ifanc, eu gwahodd i ddweud wrthym ni sut yr hoffen nhw i’r ganolfan gymuned gefnogi eu bywydau.

Fel yr unig ganolfan gymunedol ym Mhentredwr mae gan yr adeilad rôl bwysig ar gyfer y gymuned amgylchynol a’r ardal ehangach, yn cynnwys Llantysilio.
Roedd yr adborth yn cynnwys sawl cais am gyswllt di-wifr yn y Ganolfan Gymuned a llawer o ddiddordeb mewn defnyddio’r ganolfan fel lleoliad gweithdai celf a chrefft o bob math – o ddosbarthiadau arlunio i blant a chrefftau pwytho i gerfio ffyn a gwneud siarcol.

A gwneud y Ganolfan Gymuned yn ganolbwynt sgiliau gwledig, yn cynnwys defnyddio gwlân lleol ar gyfer gwaith crefft.

Crybwyllwyd gardd gymunedol yn aml hefyd, yn ogystal â darparu man ar gyfer ailgylchu.

Roedd cludiant cymunedol a darparu bws i gludo pobl i’n gweithdai a’n gweithgareddau’n uchel ar yr agenda hefyd.

Yn ogystal â rhagor o nosweithiau cwis, gyrfa chwist a boreau coffi i gael pobl at ei gilydd!

Roedd yn adborth defnyddiol iawn ac mae’r pwyllgor yn ei ddefnyddio’n awr i gynorthwyo wrth gynllunio digwyddiadau’n y dyfodol.

FaLang translation system by Faboba