Rydym ni’n chwilio am weithiwr i gynorthwyo gyda marchnata’r Ganolfan Gymunedol i logwyr posibl a delio gyda rhai materion gweinyddol o ran archebion a chydlynu gwirfoddolwyr. Mae’r Ganolfan yn yr Hen Ysgol, Pentredŵr, sy’n gymuned wledig 4 milltir i’r gogledd o Langollen.  Mae gennym ni grant o’r Loteri Mawr ar gyfer y swydd am 3 mlynedd a gobeithir yn ystod y cyfnod hwn y bydd incwm rhent yn cynyddu’n ddigonol i barhau’r swydd i ryw raddau yn y dyfodol.  Gobeithiwn gynnal cymysgedd o logiadau cymunedol, yn bennaf sesiynau un tro ond rhai llogiadau rheolaidd, a llety dros nos i grwpiau sy’n ymweld sydd angen llety sylfaenol wrth ddarganfod yr ardal.  Y bwriad yw y bydd defnydd cynyddol o’r ganolfan gymunedol yn clymu cymuned wasgaredig Pentredŵr gyda chymunedau cyfagos Llantysilio a Llangollen.

Y bwriad yw i’r swydd gael ei gyflawni gan rhywun sy’n ymgymeryd â gwasanaethau i’r Gymdeithas Gymunedol gan nad yw’r ymrwymiadau amser amrywiol yn trosgwlyddo’n hawdd i gyflogaeth rhan amser. Bydd y contractwr yn gyfrifol am ddatgan a chyfrif am holl gyfraniadau treth ac Yswiriant Cenedlaethol.  Byddwn ni’n talu £5,000, bob chwarter ar ddiwedd yr ail fis o bob chwarter, ar gytundeb un mlynedd i ddechrau a fydd yn agored ar gyfer adnewyddu ar gyfer y ddwy flynedd canlynol.  Mae’n bosib rhannu’r cytundeb i ddwy elfen, y marchnata a’r gweinyddol ac felly ystyrir ymgeisiadau ar gyfer un neu ddwy elfen.  Byddai siaradwr Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.  Yn yr un modd, rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn eithaf lleol er mwyn cwblhau rhai o’r gwaith gweinyddol – archwiliadau cyn/ar ôl llogi, trosglwyddo goriadau ayyb er y gallai rhai o’r swyddogaethau gael eu rhannu gan wirfoddolwyr lleol – felly ystyrir ymgeiswyr llai lleol ond bydd hwylustod mynediad i’r ganolfan yn cael ei drafod yn y broses recriwtio.

Gall y Gwasanaethau sy’n ofynnol gan y Gweithiwr Cyswllt ei grynhoi fel gweithio gyda Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Cymunedol i: 

  • Cysylltu gyda’r gymuned leol, cynllunio a throsglwyddo digwyddiadau sy’n gweddu eu hanghenion. 
  • Hyrwyddo’r gofod i’w logi’n lleol neu thu hwnt. Bydd y weithgarwch marchnata hwn angen ymchwil a chynllunio i ddechrau ac felly byddai profiad yn y maes yn fanteisiol ond nid yn hanfodol. Bydd yr ymdrech ddechreuol ar gyfer hyn yn gofyn am ran sylweddol o amser yr ymgymerwr mewn cyfnod gweinyddol isel ar logiadau oherwydd cau’r ganolfan ar gyfer gwaith adnewyddu sylweddol.  Wedi hynny dylai’r gwaith marchnata leihau wrth i’r gwaith llogi gweinyddol gynyddu.
  • Derbyn llogiadau a chadw dyddiadur o ddigwyddiadau/llogiadau, trefnu ar gyfer trosglwyddo goriadau ac archwilio’r adeilad cyn ac ar ôl llogi.
  • Cydlynu cyfarfodydd gydag aelodau o’r Gymdeithas Gymunedol a rhoi adborth iddyn nhw’n rheolaidd. 
  • Cysylltu gyda St Collen a chanolfan y Conquering Hero i sicrhau bod pawb yn glir am yr ystod o gyfleusterau sydd ar gael ymhob lleoliad a gallu pasio llogiadau o un i’r llall os bydd angen.
  • Gosod y sylfaen ar gyfer sefydlu rhwydwaith cymunedol, wedi ei ganoli yn y Ganolfan Gymunedol, fydd yn hyrwyddo cyswllt rhwng trigolion lleol o bob oed er mwyn gwella cyfathrebiad o fewn y gymuned a fyddai’n elwa trigolion o bob oed a gallu.
  • Cydlynu â’r Gymdeithas Gymunedol a gwirfoddolwyr lleol er mwyn trefnu glanhau a cynnal a chadw’r neuadd.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y swydd ddynodi hynny yn ysgrifenedig ynghyd â CV cryno a’i anfon i’r manylion cyswllt isod unai drwy’r post neu ebost erbyn 31 Hydref 2017. Gobeithiwn gyfweld â rhestr fer o ymgeiswyr ym mis Tachwedd er mwyn penodi o’r 1 Rhagfyr 2017.  Bydd hwn yn broses anffurfiol er bod gan y darparwr cyllid nifer o anghenion ynghylch cynnal y weithdrefn recriwtio.

Paul Coleman
Cadeirydd
Cymdeithas Gymunedol Pentredwr a’r Cylch

Manylion Cyswllt:
       This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. 
       Y Pandy, Llantysilio, Llangollen LL20 8DD
       07710 210943 a 01978 869299

FaLang translation system by Faboba